SHARE

Freelance Project Manager: Christmas at Bute Park

APPLICATIONS NOW CLOSED / Mae CEISIADAU nawr ar gau!

Contract Period: 1 May 2022 – 28 January 2023

Part time, Freelance

Fee: To be Negotiated

From the Fields Ltd is seeking a highly organised Freelance Project Manager to help deliver its flagship winter event, Christmas at Bute Park. Christmas at Bute Park is a major winter illuminations trail, attracting 120,000 visitors in 2021, its inaugural year. Working closely with the Event Director, Creative Producer, Production Manager & Trader & Bar Managers, the Project Manager will be chiefly responsible for venue communications, trader & bar liaison, ticketing, accessibility, on site branding & signage, & VIP launch.

The Project Manager will organise site visits and team meetings, liaising with key external suppliers and delivery partners, ensuring the seamless production of the event. The role will be focused on working with Trader & Bars Managers to plan the best approach to F&B layout & optimisation of sales, working with our Access consultant to improve accessibility across both live event & pre-event communications, and acting as the lead liaison with the event venue, event ticketing provider & Guest List Manager. The Project Manager will also oversee a small launch evening on the event’s opening night.

While the event is live, the Project Manager will undertake regular checks, including some ‘secret shopper’ visits, ensuring that any issues regarding trail quality or customer service are quickly identified, and then addressed.

A large portion of the work can be done remotely, and the Project Manager can be based anywhere in the UK. However, being based in or close to Cardiff will be an advantage. Some physical presence is required (to be negotiated) in Cardiff throughout our live delivery period (November 25 – January 8.

Essential:

  • 3-5 years of experience in the live events sector.
  • Good understanding of event operations and logistics.  
  • Strong level of organization & project management skills.
  • Strong communication skills, both written and verbal.  
  • Availability to be present in Cardiff during November 22 – January 23 (specific days to be negotiated).

Desirable:

  • Experience working in the Christmas light trail sector.
  • Experience in event trade operations.
  • Experience in overseeing event ticketing, accessibility and event signage.
  • Ability to speak Welsh
  • Being based in or close to Cardiff.

Equality Statement:

At From the Fields, we are committed to creating a diverse and inclusive workforce. We encourage applications from individuals of all backgrounds, ensuring equality of opportunity and fair treatment in recruitment, selection, and employment. We promote a culture of respect, integrity, and diversity, welcoming applicants regardless of race, ethnicity, gender, age, disability, sexual orientation, or any other protected characteristic.

APPLICATIONS NOW CLOSED

Rheolwr Prosiect Llawrydd: Nadolig ym Mharc Bute

Cyfnod y Contract: 1 Mai 2022 – 28 Ionawr 2023

Rhan amser, Llawrydd

Ffi: I’w thrafod

Mae From the Fields Ltd yn chwilio am Reolwr Prosiect Llawrydd hynod o drefnus i helpu i gyflwyno ei ddigwyddiad blaenllaw yn y gaeaf, sef Nadolig ym Mharc Bute. Llwybr goleuadau tymhorol mawr yw Nadolig ym Mharc Bute a lwyddodd i ddenu 120,000 o ymwelwyr yn ei flwyddyn gyntaf yn 2021. Gan weithio’n agos â Chyfarwyddwr y Digwyddiad, y Cynhyrchydd Creadigol, y Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwyr Masnach a Bariau, bydd y Rheolwr Prosiect yn bennaf gyfrifol am gyfathrebu ar y safle, cysylltu â masnachwyr a bariau, tocynnu, hygyrchedd, brandio ac arwyddion ar y safle a’r lansiad VIP.

Bydd y Rheolwr Prosiect yn trefnu ymweliadau safle a chyfarfodydd tîm, ac yn cysylltu â chyflenwyr allanol allweddol a phartneriaid cyflawni, gan sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddi-dor. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar weithio gyda Rheolwyr Masnach a Bariau i gynllunio’r dull gorau o ymdrin â chynllun bwyd a diod ac optimeiddio gwerthiant, gan weithio gyda’n hymgynghorydd mynediad i wella hygyrchedd yn y digwyddiadau byw ac yn y cyfathrebu cyn y digwyddiad, a gweithredu fel prif gyswllt safle’r digwyddiad, darparwr tocynnau’r digwyddiad a Rheolwr y Rhestr Gwesteion. Bydd y Rheolwr Prosiect hefyd yn goruchwylio noson lansio fechan ar noson agoriadol y digwyddiad.  

Tra bydd y digwyddiad yn fyw, bydd y Rheolwr Prosiect yn cynnal archwiliadau rheolaidd, gan gynnwys ymweliadau ‘siopwr cudd’, i sicrhau bod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ansawdd y llwybr neu wasanaeth cwsmeriaid yn cael eu canfod yn brydlon ac yn cael sylw.

Gellir gwneud cyfran sylweddol o’r gwaith o bell, a gall y Rheolwr Prosiect weithio o unrhyw leoliad yn y DU. Fodd bynnag, bydd gweithio yng Nghaerdydd neu’n agos at y brifddinas yn fantais. Mae angen rhywfaint o bresenoldeb corfforol (i’w drafod) yng Nghaerdydd drwy gydol y cyfnod pan fyddwn yn fyw (25 Tachwedd – 8 Ionawr.

Hanfodol:

  • 3-5 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector digwyddiadau byw.
  • Dealltwriaeth dda o waith digwyddiadau a logisteg.  
  • Lefel gadarn o sgiliau trefnu a rheoli prosiect.
  • Sgiliau cyfathrebu cadarn – ysgrifenedig a llafar.  
  • Argaeledd yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod 22 Tachwedd – 23 Ionawr (dyddiau penodol i’w trafod).

Manteisiol:

  • Profiad o weithio yn y sector llwybr goleuadau Nadolig.
  • Profiad o weithio ym maes gweithrediadau digwyddiadau masnach.
  • Profiad ym maes tocynnu digwyddiadau, hygyrchedd ac arwyddion digwyddiadau.
  • Gweithio yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau.
Mae CEISIADAU nawr ar gau